Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Oedolion

Ystyr 'Diogelu' yw atal camdriniaeth neu
esgeulustod tuag at oedolion sydd mewn perygl, a diogelu'r rheiny sydd wedi'u
cam-drin neu'u hesgeuluso.

Safeguarding-Paper-Chain-WheelChair

Oedolion

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth pwy ydyn nhw na beth yw eu hamgylchiadau. Mae Diogelu Pobl yn Fater i Bawb.

Pwy yw'r oedolion sydd mewn perygl... Ydw i'n oedolyn mewn perygl?

Mae oedolyn sy mewn perygl yn rhywun sydd angen cymorth gyda'i les corfforol neu emosiynol ac sydd, o ganlyniad, yn gallu bod yn agored i niwed. Efallai ei fod e angen cymorth gyda thasgau byw bob dydd. Er enghraifft, efallai ei fod e angen cymorth gyda bwyta, gwisgo, rheoli arian neu fynd allan o'r tŷ.

Cam-drin - Ydy e'n amlwg?

Gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd, er enghraifft;

  • Cam-drin Corfforol - bwrw, cicio neu ataliad gormodol
  • Cam-drin Seicolegol - bygwth niwed neu waradwydd, rheoli cydberthnasau ac ynysu
  • Cam-drin Rhywiol - gweithgareddau rhywiol yn erbyn ewyllys yr unigolyn, gan gynnwys cyffwrdd
  • Cam-drin Ariannol – twyll neu ddylanwadu ar faterion eiddo neu ewyllysiau
  • Esgeulustod - methu â diwallu anghenion beunyddiol oedolyn sy'n wynebu risg

Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o gael niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd efallai'n cael ei gam-drin, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith ar:

Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30am - 5pm
Rhondda Cynon Taf - 01443 425 003
Merthyr Tudful - 01685 725 000
Pen-y-bont - 01656 642 477 

Carfan ar Ddyletswydd mewn Argyfwng (y tu allan i oriau): 01443 743 665

 

Deddf Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid

O ganlyniad i ddiffyg galluedd meddyliol, mae rhai pobl yn methu â gwneud rhai penderfyniadau drostyn nhw'u hunain. Efallai bydd pobl sydd â dementia, anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn dod o dan y categori yma.

Rhagor o help a chyngor

Mae modd cael rhagor o gymorth a chyngor ar ystod o wefannau allanol.

Sut i roi gwybod am gam-drin

Rydyn ni wedi ymrwymo i atal cam-drin ac ymateb yn brydlon pan fo camdriniaeth yn cael ei hamau. Mae pob galwad sy'n ymwneud â phryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn a all fod mewn perygl o niwed, yn cael ei chymryd o ddifrif.