Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Sut i roi gwybod am gam-drin

Sut ydw i'n rhoi gwybod am bryder ynglŷn â Cham-drin?

Rydyn ni wedi ymrwymo i atal cam-drin ac yn ymateb yn brydlon pan fo camdriniaeth yn cael ei hamau. Mae pob galwad sydd ynghylch pryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn a allai fod mewn perygl o niwed, yn cael ei chymryd o ddifrif.

Os ydych chi'n amau bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

 

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin, neu'n dal i ddioddef, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd, yn eich barn chi, yn cael ei gam-drin, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar  Unwaith:

I roi gwybod am bryderon am blentyn yn Rhondda Cynon Taf, ffoniwch: 01443 425 003

I roi gwybod am bryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch: 01443 425 003

I roi gwybod am bryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch: 01685 725 000

Oriau agor:

Llun – Iau 8.30am – 5pm
Gwener 8.30am – 4.30pm 
Ar gau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc

Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith:

Er mwyn cysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol y tu allan i oriau arferol, ar y penwythnos a gwyliau banc, ffoniwch:

Carfan ar Ddyletswydd Cwm Taf ar 01443 743665

(mae hyn yn cwmpasu RhCT a Merthyr Tudful)
 

I roi gwybod am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â'ch gorsaf heddlu leol, neu i gael cymorth yr heddlu yn ddi-frys, ffoniwch 101.

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n rhoi gwybod am bryder?

Os ydych chi'n cysylltu â'ch carfan Diogelu leol, bydd gofyn i chi rannu gwybodaeth berthnasol am y person rydych chi'n poeni amdanyn nhw. Bydd gofyn i chi ddweud beth rydych chi wedi'i glywed neu'i weld. Bydd gwybodaeth yna'n cael ei rhannu ar sail angen i wybod ond byddwch chi'n cael gwybod â phwy mae'r wybodaeth wedi cael ei rhannu - er enghraifft, yr Heddlu os yw'n bosibl bod trosedd wedi cael ei chyflawni, neu mae modd rhoi gwybod am bryderon yn ddienw.

Bydd yr holl asiantaethau perthnasol yn gweithio gyda'r unigolyn sydd efallai'n cael ei gam-drin i benderfynu beth sydd wedi digwydd a pha gamau hoffai'r unigolyn eu cymryd wrth symud ymlaen. Bydd gwaith yn cael ei gyflawni gyda'r camdriniwr honedig, a bydd gwahanol opsiynau'n cael eu hystyried er mwyn atal, lleihau neu stopio camdriniaeth bellach rhag digwydd.

Os ydych chi'n rhoi gwybod am gamdriniaeth, byddwn ni'n:

  • cymryd eich pryderon o ddifri
  • ymdrin â'r mater mewn modd sensitif
  • gwneud yn siŵr bod y person yn ddiogel
  • cyflawni archwiliad llawn o'r sefyllfa

‘Os ydych chi'n gweld rhywbeth, rhowch wybod'