Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Beth yw Cam-drin?

Diffiniad bras oedolyn sydd mewn perygl yw: "Unigolyn 18 oed neu'n hŷn sydd efallai ag angen y Gwasanaethau Gofal Cymuned arno/arni, oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, oed neu salwch, ac sydd o bosib yn neu'n methu â gofalu am ei hun, neu’n methu ag amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gamfanteisio difrifol."

Mae cam-drin oedolion yn digwydd pan fydd unigolyn yn cael ei drin mewn ffordd wael neu mewn ffordd sy'n gwneud iddo deimlo'n ofnus neu'n anhapus, yn cael ei niweidio neu'i gamfanteisio arno - yn arbennig gan rywun mae'r unigolyn yn ei adnabod neu y dylai e/hi allu ymddiried ynddo.  Gall y cam-drin amrywio o drin rhywun ag amarch mewn ffordd sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd ei fywyd, i achosi dioddefaint corfforol gwirioneddol.

Ymhlith y mathau o gam-drin, mae:

Cam-drin corfforol megis taro, gwthio, gwasgu, ysgwyd, camddefnyddio meddyginiaeth, sgaldio, tynnu gwallt.

Cam-drin rhywiol megis gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol digroeso, cyffwrdd yn amhriodol, trais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad yw'r oedolyn sy'n agored i niwed wedi cytuno iddyn nhw, neu weithredoedd rhywiol yr oedd yr unigolyn yn teimlo o dan bwysau i'w cyflawni.

Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol megis bygylu, bygwth, anwybyddu yn fwriadol, cywilyddio, beio, rheoli, gorfodi, aflonyddu, defnyddio cam-drin geiriol, atal ffrindiau neu deulu rhag ymweld neu rwystro rhag derbyn gwasanaethau neu gymorth.

Cam-drin ariannol megis dwyn arian rhywun, neu ei wario ar y pethau anghywir, rhoi pwysau ar rywun i wneud newidiadau i'w ewyllys neu wario'i arian yn erbyn ei ddymuniadau, twyll neu gamfanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag eiddo, etifeddiaeth, camddefnyddio eiddo neu fudd-daliadau.

Esgeulustod megis anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, rhwystro mynediad i wasanaethau iechyd, gofal neu addysg, peidio â gofalu am rywun yn briodol, peidio â darparu digon o fwyd, rhoi person mewn perygl.

Gall unrhyw un o'r mathau yma o gam-drin fod naill ai'n fwriadol neu'n deillio o anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Yn aml, mae'r unigolyn yn cael ei gam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Pwy allai fod yn gyfrifol am y cam-drin?

Gall y bobl ganlynol fod yn gyfrifol am gam-drin oedolion sydd mewn perygl: perthnasau ac aelodau o'r teulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal cyflogedig, oedolion eraill sydd mewn perygl, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth eraill, cymdogion, ffrindiau a chymdeithion, pobl sy'n camfanteisio ar bobl mewn perygl yn fwriadol, dieithriaid a phobl sy'n cymryd mantais

Gall unrhyw un fod yn gyfrifol am gam-drin.

 

Ble mae'r cam-drin yn digwydd?

Gall cam-drin ddigwydd mewn unrhyw le - mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, mewn canolfan oriau dydd neu sefydliad addysg, mewn tai â chymorth, yn y stryd neu yng nghartref yr oedolyn sydd mewn perygl.  Gall cam-drin fod yn weithred untro neu fe all barhau dros nifer o fisoedd neu flynyddoedd.