Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Pum ffordd o helpu plant a phobl ifanc i gadw'n ddiogel yn ystod cyfyngiadau symud coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn annog y cyhoedd i helpu i gadw plant yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac arbenigwyr o sefydliadau plant blaenllaw wedi rhyddhau datganiad ar y cyd sy’n cynnwys rhestr o bump o wasanaethau sy’n parhau i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rydw i am roi neges glir bod ein gwasanaethau i blant ar agor fel arfer i unrhyw un sydd angen cymorth. Dyna pam ein bod ni heddiw wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd gyda’r NSPCC, Plant yng Nghymru, a’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid yn datgan bod rhaid i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb am gadw ein plant yn ddiogel. 

1. Ffoniwch 101

Os ydych yn poeni am blentyn neu berson ifanc yn eich teulu neu yn eich cymuned, ffoniwch 101.

2. Meic Cymru

Mae gwasanaeth llinell gymorth Meic i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru yn parhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau ar symud yn sgil coronafeirws.

Mae Meic ar agor o 8am tan hanner nos, saith diwrnod yr wythnos ac mae’n cynnig gwasanaeth cyfrinachol, dienw ac am ddim. 

Gallwch ffonio rhadffôn 080880 23456, anfon neges destun at 84001 neu fynd i meiccymru.org.

3. Yr NSPCC

Mae llinell gymorth yr NSPCC yn parhau i roi cymorth i oedolion sy’n bryderus am blentyn neu berson ifanc. Mae amryw o adnoddau ar gael yn nspcc.org.uk/coronavirus.

Gallwch hefyd ffonio 0808 800 5000 neu anfon e-bost at help@nspcc.org.uk.

4. Childline

Mae Childline yn dal i fod yno ar gyfer plant, ar lein neu ar ben arall y ffôn ar unrhyw adeg. Gallwch ffonio 0800 1111, rhwng 9am a 12am neu e-bostio drwy’r wefan childline.org.uk

5. Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwefan bwrpasol ar gyfer diogelu sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc yn ystod argyfwng coronafeirws.

Mae’r wefan yn esbonio beth allwch chi ei wneud os ydych yn amau bod rhywun mewn perygl o ddioddef niwed, camdriniaeth neu esgeulustod, a sut i roi gwybod am eich pryderon ar-lein.

Cewch ragor o wybodaeth yn https://llyw.cymru/sut-i-roi-gwybod-am-amheuaeth-o-gam-drin-niwed-neu-esgeulustod-diogelu-pobl

Aeth y Dirprwy Weinidog ymlaen i ddweud: “Ers inni weld yr achos cyntaf o coronafeirws yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ym mhob un sector wedi canolbwyntio ar sicrhau bod plant a phobl ifanc mor ddiogel â phosibl. Wrth i’r pandemig barhau, mae nifer yr achosion a’r goblygiadau posibl ar unigolion a chymdeithas wedi dechrau dod i’r amlwg.

“Fel llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni o dan y pwerau sydd gennym ni i reoli a lliniaru’r effaith. Rydw i am roi neges glir bod ein gwasanaethau i blant ar agor fel arfer i unrhyw un sydd angen cymorth.!

Dywedodd Vivienne Lang, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru: “Mae bywyd teuluol wedi newid dros nos. Yn anffodus, dyw’r cartref ddim yn lle diogel i bob plentyn. Oherwydd bod ysgolion ar gau, mae llawer o blant sy’n agored i niwed mewn perygl.

“Mae mwy a mwy o oedolion sy’n poeni am blant yn cysylltu â llinell gymorth NSPCC ac mae mwy a mwy o blant yn cysylltu â Childline oherwydd eu bod yn poeni am coronafeirws. Mae NSPCC dal yma yn darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd sydd angen ein cymorth ni.”

Dywedodd Keith Towler, Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim: “Yn ystod y pandemig mae gwaith ac ymroddiad gweithwyr ieuenctid ar draws y sector a gynhelir a’r trydydd sector yng Nghymru wedi creu argraff fawr arna i.

“Diogelu fydd yn ganolog i ymateb y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru i anghenion pobl ifanc yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod yr wybodaeth a’r negeseuon ar gyfer pobl ifanc yn taro deuddeg er mwyn inni allu ymateb fel sector i’w pryderon.”

Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru: “Mae ein neges ni’n glir. Os oes angen cymorth arnoch chi, gofynnwch. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd angen cymorth, neu os ydych chi’n poeni am rywun, gofynnwch am help heddiw. Mae llawer o wasanaethau anhygoel wedi ymateb yn frwdfrydig i helpu i sicrhau bod plant yn cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod hanfodol hwn, ac maen nhw’n benderfynol o lwyddo.

“Maen nhw’n barod i ddechrau cynnig cyngor, gofal, cysur a chymorth ac yn awyddus iawn i wneud hynny. Rhaid inni gyd fod yn hynod wyliadwrus a cheisio sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef yn ystod y pandemig hwn.”

Wedi ei bostio ar Friday 22nd May 2020