Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Beth yw Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant?

Math o gam-drin rhywiol yw camfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae'n golygu bod rhywun yn camfanteisio'n rhywiol ar blentyn yn gyfnewid am arian, pŵer neu statws.

Mae'n bosibl bydd y plentyn neu berson ifanc yn cael ei dwyllo i gredu ei fod mewn perthynas gariadus a chytûn. Mae'n bosibl bydd y plentyn yn cael ei wahodd i bartïon a bydd rhywun yn rhoi cyffuriau ac alcohol iddo. Mae'n bosibl hefyd bydd rhywun yn meithrin perthynas amhriodol ar-lein â'r plentyn.  Mae'n bosibl bydd y sawl sy'n cam-drin y plentyn yn ei fygwth yn gorfforol neu'n eiriol, neu'n dreisgar tuag ato.  Bydd y sawl sy'n cam-drin y plentyn yn ceisio ei reoli, a dylanwadu arno. Bydd hefyd yn ceisio gwahanu'r plentyn oddi wrth ei ffrindiau a'i deulu.  Mae'n digwydd i fechgyn ac i ddynion ifainc, yn ogystal ag i ferched ac i fenywod ifainc.  Bydd y sawl sy'n cam-drin plant yn fedrus iawn o ran dylanwadu a chamfanteisio ar blant. 

Mae rhai'n masnachu plant a phobl ifainc er mwyn camfanteisio'n rhywiol arnyn nhw.

Adnabod yr Arwyddion

Mae'n bosibl i hyd yn oed ymddygiad sy'n ymddangos yn normal gan blant yn eu harddegau fod yn arwydd o gamfanteisio.
Mae modd i'r rhain gynnwys:

  • Defnyddio ffôn symudol neu ddyfais arall yn amlach neu'n gyfrinachol. 
  • Treulio gormod o amser ar-lein a bod yn gyfrinachol am dreulio amser ar-lein. 
  • ‘Cariad’ neu ‘ffrind’ sy'n llawer hŷn, neu lawer o ffrindiau newydd.
  • Newid o ran ymddygiad – bod yn gyfrinachol, yn ddadleugar, yn ymosodol, yn aflonyddgar, yn dawel, yn swil. 
  • Derbyn rhoddion neu eiddo newydd heb esboniad, er enghraifft, dillad, gemwaith, ffonau symudol neu arian, neu'n cael gafael ar nwyddau eraill (fel alcohol). 
  • Bod yn absennol o'r ysgol neu'n osgoi bod adref am gyfnodau heb esboniad, neu'n aros allan yn hwyr neu drwy'r nos.

Beth all rhieni/cynhalwyr ei wneud?

Mae'n bwysig siarad â phlant am y gwahaniaethau rhwng perthynas iach a pherthynas niweidiol, er mwyn helpu i dynnu sylw at beryglon posib.  Mae hefyd nifer o gamau ymarferol i'w cymryd er mwyn amddiffyn plant:

  • Bod  yn effro i newidiadau o ran ymddygiad neu unrhyw arwyddion o gam-drin, fel cleisiau.
  • Bod yn ymwybodol o roddion neu eiddo newydd heb esboniad, er enghraifft, dillad, gemwaith, ffonau symudol neu arian, neu nwyddau eraill (fel alcohol).
  • Monitro unrhyw achos o aros allan yn hwyr neu o beidio â dod adref.
  • Bod  yn ofalus ynglŷn â ffrindiau hŷn neu berthynas â phobl ifainc eraill lle mae'n ymddangos bod anghydbwysedd o ran pŵer.
  • Gwneud  yn siŵr eich bod chi'n deall y peryglon sy'n gysylltiedig â phresenoldeb plant ar-lein a rhoi mesurau ar waith i leihau'r peryglon hyn.

Gall materion camfanteisio fod yn anodd i'w hadnabod, felly, mae'n bwysig eich bod chi'n adnabod yr arwyddion.

Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999

Os does dim angen ymateb ar frys, mae croeso i chi ffonio'r heddlu ar 999.

Adnodd ar-lein am ddim - Keep Them Safe

Adnodd dysgu ar-lein am ddim yw Keep Them Safe, ac mae dros 29,000 o rieni a gweithwyr proffesiynol wedi manteisio arno (hyd at Fawrth 2016). PACE a Virtual College sy'n ei gynnig.

Er bod y cwrs e-ddysgu hyd 20-30 munud ar gyfer rhieni yn benodol, bydd o fudd i weithwyr proffesiynol ym maes diogelu. Bydd y rheiny sy'n dilyn y cwrs yn:

  • cael rhagor o wybodaeth am gamfanteisio'n rhywiol ar blant
  • dysgu' arwyddion a'r dangosyddion fod rhywun efallai'n camfanteisio ar blant
  • deall effaith camfanteisio'n rhywiol ar blant ar deuluoedd
  • gwybod  beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod plentyn mewn perygl.

Darganfyddwch ragor o wybodaeth gan PACE - Rhieni yn Erbyn Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant