Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Pecyn Ymgyrch yn erbyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

Mae'r Swyddfa Gartref yn lansio ymgyrch yn erbyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) ar 5 Hydref. Bydd yr ymgyrch yn para wyth wythnos yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r drosedd yma a diogelu menywod a merched sy'n agored i niwed.

Bydd yr ymgyrch yn cefnogi'n gwaith barhau i fynd i'r afael â materion Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, sy'n cynnwys rhaglen allgymorth barhaus Uned Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod y Swyddfa Gartref, gweithio gyda chyrff gorfodi'r gyfraith a gweithio gyda phartneriaid i helpu sicrhau bod ymateb y Llywodraeth mor

Mae'r ymgyrch yn ceisio helpu i atal Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod trwy newid agweddau ymhlith cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau iechyd negyddol hir dymor Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Mae'r ymgyrch hefyd yn annog cymunedau i roi gwybod trwy gysylltu â Llinell Gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). 

Bydden ni'n ddiolchgar i gael eich cymorth ac rydyn ni'n eich annog chi i ddefnyddio'r adnoddau yn y pecyn partner yma i hyrwyddo'r ymgyrch trwy'ch sianeli.  E-bostiwch fewnflwch VAWG: yyfma-VAWGcampaign@homeoffice.gov.uk os oes gyda chi unrhyw gwestiynau.

Yn ogystal â'r ymgyrch, bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal Polisi Cynnydd: Bydd y gynhadledd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Phriodas dan Orfod yn dod i ben ym mis Tachwedd 2018, mewn partneriaeth â Chyngor Ewrop. Bydd yr achlysur yn dod ag arbenigwyr o bob rhan o Ewrop a thu hwnt at ei gilydd i rannu enghreifftiau ymarferol o waith rhyngwladol i ddod ag achosion Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Phriodas dan Orfod i ben. Mae hyn yn cynnwys llunwyr polisi dylanwadol, gweithwyr proffesiynol y rheng flaen, sefydliadau sydd ddim yn ymwneud â'r Llywodraeth ac ymgyrchwyr ysbrydoledig. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: visitsandevents1@homeoffice.gsi.gov.uk.