Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Cam-drin yn y Cartref

Ni ddylai unrhyw un gael ei gam-drin yn y cartref.  Byth.  Ond mae cam-drin yn y cartref yn digwydd - ac os yw'n digwydd, mae yna gymorth ar gael.

Os ydych chi'n amau bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

 

Os ydych chi'n wynebu cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, wedi wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sy'n wynebu cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, mae modd cael cymorth lleol yma:

  • Yn RhCT  - Canolfan Oasis (gwasanaeth bob rhyw)
    Rhif Ffôn:      01443 494190

Mae'r Uned yn bwriadu:

  • Darparu mesurau diogelwch, cyngor, dadleuwriaeth a chymorth.
  • Darparu gwybodaeth am opsiynau sifil a throseddol cadarnhaol er mwyn gwella diogelwch
  • Mae'r Uned yn gallu darparu gwybodaeth a chyngor ar y broses erlyn
  • Gweithio'n agos ag asiantaethau eraill

Mae modd i chi ymweld â gwefan Uned Diogelwch Pontypridd am ragor o wybodaeth

Ym Merthyr Tudful - TEULU MAC
 47- 48 Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 4UN
Rhif Ffôn: 01685 388444 
Rhadffôn: 0800 389 7552

Diffiniad y Llywodraeth o gam-drin yn y cartref yw unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu sy’n fygythiol, trais neu gamdriniaeth rhwng unigolion dros 16 oed sydd yn neu sydd wedi bod yn bartneriaid neu’n aelodau o’r un teulu, beth bynnag eu rhyw neu rywioldeb.

Er nad yw'n gyfyngedig i'r canlynol, gall y cam-drin fod yn:

  • Seicolegol,
  • Corfforol,
  • Rhywiol,
  • Ariannol ac Emosiynol

Mae cam-drin yn y cartref yn digwydd os yw un person yn y berthynas yn mabwysiadu patrwm o ymddygiad sy'n rheoli'r berson arall. Mae'n bosib bydd y partneriaid wedi priodi neu'n ddi-briod; yn heterorywiol, hoyw neu'n lesbiaidd; yn byw gyda'i gilydd, ar wahan neu'n gariadon.

Mae modd i enghreifftiau o gam-drin gynnwys:

  • galw enwau neu sarhau
  • atal partner rhag cysylltu â'i deulu neu ffrindiau
  • rheoli arian
  • atal partner rhag cael/cadw swydd
  • niweidio neu fygwth niwed corfforol
  • ymosodiad rhywiol
  • stelcio
  • codi ofn

Mae'r gamdriniaeth yma hefyd yn berthnasol os yw'r cyflawnwr yn caniatau neu'n achosi i blentyn fod yn dyst, neu mewn perygl o dystio, cam-drin yn y cartref. Yn ei hanfod, golyga cam-drin yn y cartref fod unigolyn yn camddefnyddio pwer ac yn rheoli person arall sydd yn, neu sydd wedi bod, yn berthynas agos iddo.

Nid yw cam-drin yn y cartref o hyd yn hawdd i'w weld gan ei fod yn gallu gwaethygu dros gyfnod o amser. Mae'n bosib na fydd arwyddion o gam-drin yn y cartref yn cael eu sylwi am fisoedd, os nad blynyddoedd. Yn aml, nid yw'r dioddefwr yn gweld yr hyn y mae ffrindiau, perthnasau a chymdogion yn ei weld. Nid yw nifer fawr o bobl sy'n cael eu cam-drin yn ystyried eu bod nhw'n cael eu cam-drin. Yn ogystal â hyn nid yw camdrinwyr yn ystyried eu bod yn cam-drin.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cam-drin yn y cartref yn RhCT;

Os yw eich partner chi yn defnyddio un neu ragor o'r ffyrdd isod i'ch rheoli chi;

  • gwthio, bwrw, slapio, tagu, cicio neu frathu
  • eich bygwth chi, eich plant neu aelodau eraill o'r teulu neu eich anifeiliaid anwes
  • bygwth hunanladdiad i'ch cael chi i wneud rhywbeth
  • defnyddio arfau yn eich erbyn neu'n bygwth gwneud hynny
  • cadw neu'n cymryd eich arian
  • gwneud i chi deimlo'n wael neu'n eich sarhau
  • eich gorfodi chi i gael rhyw neu gyflawni gweithred rywiol nad ydych chi eisiau'i wneud neu'n ei hoffi
  • eich atal chi rhag gweld eich ffrindiau, teulu neu fynd i'r gwaith

RYDYCH CHI WEDI CAEL EICH CAM-DRIN!

YOU HAVE BEEN ABUSED!!

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un sy'n dioddef cam-drin rhywiol neu gam-drin yn y cartref neu sydd eisiau rhagor o wybodaeth ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae'r llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Cysylltwch â llinell gymorth Byw Heb Ofn ar rif Rhadffôn 0808 80 10 800

Am ragor o wybodaeth mae modd i chi ymweld â gwefan Byw Heb Ofn.