Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ni waeth pwy ydyn nhw na beth yw eu hamgylchiadau. Mae Diogelu Pobl yn Fater i Bawb.
Pwy yw'r oedolion sydd mewn perygl... Ydw i'n oedolyn mewn perygl?
Mae oedolyn sy mewn perygl yn rhywun sydd angen cymorth gyda'i les corfforol neu emosiynol ac sydd, o ganlyniad, yn gallu bod yn agored i niwed. Efallai ei fod e angen cymorth gyda thasgau byw bob dydd. Er enghraifft, efallai ei fod e angen cymorth gyda bwyta, gwisgo, rheoli arian neu fynd allan o'r tŷ.
Cam-drin - Ydy e'n amlwg?
Gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd, er enghraifft;
- Cam-drin Corfforol - bwrw, cicio neu ataliad gormodol
- Cam-drin Seicolegol - bygwth niwed neu waradwydd, rheoli cydberthnasau ac ynysu
- Cam-drin Rhywiol - gweithgareddau rhywiol yn erbyn ewyllys yr unigolyn, gan gynnwys cyffwrdd
- Cam-drin Ariannol – twyll neu ddylanwadu ar faterion eiddo neu ewyllysiau
- Esgeulustod - methu â diwallu anghenion beunyddiol oedolyn sy'n wynebu risg
Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o gael niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu os ydych chi'n adnabod rhywun sydd efallai'n cael ei gam-drin, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith ar:
Oriau agor: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30am - 5pm
Rhondda Cynon Taf - 01443 425 003
Merthyr Tudful - 01685 725 000
Pen-y-bont - 01656 642 477
Carfan ar Ddyletswydd mewn Argyfwng (y tu allan i oriau): 01443 743 665
O ganlyniad i ddiffyg galluedd meddyliol, mae rhai pobl yn methu â gwneud rhai penderfyniadau drostyn nhw'u hunain. Efallai bydd pobl sydd â dementia, anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl yn dod o dan y categori yma.
Mae modd cael rhagor o gymorth a chyngor ar ystod o wefannau allanol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i atal cam-drin ac ymateb yn brydlon pan fo camdriniaeth yn cael ei hamau. Mae pob galwad sy'n ymwneud â phryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn a all fod mewn perygl o niwed, yn cael ei chymryd o ddifrif.
Tudalennau yn yr adran yma
Adrodd Pryderon
I adrodd pryderon am blentyn yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 006
I adrodd pryderon am oedolyn mewn perygl yn RhCT, ffoniwch:
01443 425 003
I adrodd pryderon ym Merthyr Tudful, ffoniwch:
01685 725 000
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas ag oedolion mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642477
I roi gwybod am bryderon mewn perthynas â phlant mewn perygl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ffoniwch:
01656 642320
Rhif ffôn argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa:
01443 743 665
Rhagor o wybodaeth