Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Gyda'n Gilydd, Gallwn Ni Atal Plant rhag Cael eu Cam-drin yn Rhywiol

Help Keep Children Safe

Ydych chi'n:

  • Rhiant?
  • Mam-gu  neu'n Dad-cu?
  • Rhywun sy'n gofalu am blant a phobl ifanc, neu sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda nhw?

Yna dewch i sesiwn codi ymwybyddiaeth ar amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-drin rhywiol. 

Diben y sesiwn, sy'n cael ei chynnal gan Stop it Now! Cymru, yw tynnu sylw at ddangosyddion risg mewn perthynas â phlant sydd, o bosib, mewn peryg o gael eu cam-drin yn rhywiol, yn ogystal ag ymddygiadau mewn perthynas â phroses meithrin perthynas amhriodol. 

Mae Stop it Now! Cymru yn brosiect sy'n gweithio ledled y wlad i sicrhau bod rhieni, cynhalwyr (gofalwyr) a staff rheng flaen yn y sefyllfa orau posib i allu amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol a'u camfanteisio. 

Rydyn ni'n credu bod modd atal cam-drin plant yn rhywiol a bod gan bob oedolyn ran i'w chwarae wrth amddiffyn plant rhag niwed rhywiol. Mae modd cyflawni hyn orau pan fydd oedolion yn effro i arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r math o ymddygiad bydd rhywun sy'n peri risg i blant yn ei arddangos, a gwybod ble i ofyn am help a chyngor.  

Mae'r rhai sydd wedi mynd i sesiynau tebyg wedi'u cynnal gan Stop it Now! Cymru wedi dweud:  

"Roedd yn agoriad llygad i fi ac rydw i'n credu y dylai pawb fynd i'r sesiynau yma." 

"Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth. Roedd wedi'i chyflwyno'n dda. Diolch yn fawr."

"Roedd y sesiwn yn WYCH! Dysgon ni beth sydd angen i ni i wybod ynglŷn â chadw plant yn saff mewn ffordd addysgiadol a diogel."

Mae'r sesiwn yn cael ei gynnal yn: 

Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB

Dydd Mercher, 24 Ebrill 2019

10:00am - 12:15pm

I gadw'ch lle, e-bostiwch beth.melhuish@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 484560

Am ragor o wybodaeth am Stop it Now! Cymru, ewch i https://www.stopitnow.org.uk/wales.htm

Wedi ei bostio ar Monday 1st Ebrill 2019