Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Y Gweinidog Addysg yn lansio cynllun gweithredu newydd i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein

Phone - Online Safety

Heddiw mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi lansio Cynllun gweithredu diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc 2019. Dyma'r diweddariad blynyddol cyntaf i'r cynllun gwreiddiol a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2018.

Mae'r cynllun gweithredu yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar bob un o'r 46 cam gweithredu sydd i'w gweld yng nghynllun 2018. Mae hefyd yn nodi manylion am 15 cam gweithredu newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â nhw i gryfhau darpariaeth, polisi ac arferion diogelwch ar-lein drwy Gymru.

Mae'r Gweinidog Addysg hefyd wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar gynllun gweithredu diogelwch ar-lein newydd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gweld y: Cynllun gweithredu diogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc 2019.

Wedi ei bostio ar Friday 3rd January 2020