Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Amddiffyn a Diogelu Pobl Hŷn: Pecyn Gwybodaeth Covid-19

Mae’r pandemig COVID-19 wedi achosi pryder a tharfu’n sylweddol ar bob un ohonom. Ond i bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu'n wynebu camdriniaeth, a'r rhai sydd wedi dioddef trosedd neu wedi'u targedu gan droseddwyr, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt. Mae nifer o bobl hŷn ar draws Cymru wedi teimlo ofn, yn ynysig ac yn unig.

Dyna pam rydym wedi dod at ein gilydd gyda neges syml ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru: Nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym yma i chi a gallwn eich helpu a'ch cefnogi.

Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gan bobl hŷn a allai fod mewn perygl, a'r rhai sy'n gofalu ac yn poeni amdanynt, y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â’r help a'r gefnogaeth sydd ar gael. Rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd yn ehangach am y rôl y gall pob un ohonom ei chwarae wrth helpu i amddiffyn pobl hŷn.

Mae'r pecyn hwn yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol am gadw pobl hŷn yn ddiogel - gan gynnwys y ffyrdd y gallwn adnabod pobl hŷn a allai fod mewn perygl, a manylion cyswllt sefydliadau allweddol sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth hanfodol.

Diolch am eich cefnogaeth wrth amddiffyn a diogelu pobl hŷn ledled Cymru.

CLICIWCH YMA I LAWRLWYTHO

Wedi ei bostio ar Friday 5th June 2020