Mae siarad yn achub bywydau
Bydd dydd Llun, 16 Tachwedd yn nodi dechrau Wythnos Ddiogelu 2020 ac mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg (CTMSB), ynghyd â'r holl Fyrddau Diogelu eraill ledled Cymru, yn achub ar y cyfle hwn i weithio gyda'i bartneriaid i dynnu sylw at faterion diogelu a hyrwyddo gweithgareddau diogelu.
Mae Byrddau Diogelu yn bartneriaethau statudol sy'n cynnwys yr asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn eu rhanbarthau, ac yn sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed.
Mae eleni wedi bod yn wahanol i bob blwyddyn. Gyda'r cyfnodau clo sydd wedi cael eu gorfodi oherwydd Covid-19, mae'r wlad wedi profi aflonyddwch eithafol, gyda miloedd o bobl yn teimlo'n ynysig ac yn methu â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel mynd i'r gampfa neu gwrdd mewn grŵp - y pethau sy fel arfer yn eu helpu i ymdopi â straen bywyd bob dydd. Mae hyn wedi cael effaith negyddol enfawr ar iechyd meddwl a lles pobl o bob oed ac, yn anffodus iawn, mae hyn wedi arwain at rai pobl yn lladd eu hunain.
Yng ngoleuni hyn, ac o wybod ein bod yn debygol o fod yn profi rhyw fath o gyfnod clo parhaus dros fisoedd y gaeaf, bydd y Bwrdd Diogelu a'i bartneriaid yn defnyddio’r Wythnos Ddiogelu eleni i ganolbwyntio ar les meddwl cadarnhaol ac atal hunanladdiad. Mae hyn yn bwysicach fyth wrth inni symud tuag at y gaeaf. Fel y gwyddom, mae’r gaeaf eisoes yn effeithio ar hwyliau rhai pobl, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef ag Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD). Y brif neges fydd ‘Mae siarad yn achub bywydau’ a phwysigrwydd ceisio cymorth a siarad pan fo pethau’n teimlo’n anodd.
- Mae hunanladdiad yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth ymhlith pobl ifainc yn y DU, ac nid yw nifer y marwolaethau oherwydd anafiadau bwriadol a hunan-niweidio wedi gostwng mewn 30 mlynedd.
- Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos nad oes cynifer â hyn o bobl wedi lladd eu hunain o fewn un flwyddyn ers 2000.
- Hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith dynion o dan 50 oed. Yn 2019, roedd cafodd bron i 6,000 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr, gyda thua ¾ o'r rheiny yn ddynion.
- Dydy dau o blith pob pum dyn rhwng 20 a 59 oed yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ddim yn ceisio cymorth pan fo’i angen arnyn nhw, a hynny am ei bod hi’n well ganddyn nhw ddatrys eu problemau eu hunain.
Dywedodd Cyd-gadeiryddion Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg:
“Mae’r rhain yn amseroedd anodd, nad yw’r un ohonom erioed wedi’u profi o’r blaen. Os gwelwch yn dda, rydym yn annog pawb i geisio cymorth os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Siaradwch â ffrind, aelod o’r teulu neu un o'r gwasanaethau cymorth niferus sy'n barod i roi'r help a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Gallwch wneud hyn drwy alwad ffôn, neges destun neu gael sgwrs we. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. ”
Trwy gydol yr Wythnos Ddiogelu, cynhelir nifer o achlysuron sydd wedi'u hanelu at blant, pobl ifainc, oedolion a gweithwyr proffesiynol. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a meithrin iechyd meddwl a lles cadarnhaol.
I weld yr holl weithgareddau sy'n digwydd yn ystod yr Wythnos Ddiogelu ledled RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, cliciwch ar y ddolen yma.
Dyma ddolenni i rai sefydliadau sydd â phobl yn barod i'ch helpu a'ch cefnogi os bydd angen i chi siarad â rhywun.
Plant a Phobl Ifainc: Samaritans 116 123, Papyrus & Young Minds.
Oedolion: Samaritans 116 123, CALL 24/7 a CTM Mind
Wedi ei bostio ar Wednesday 11th November 2020