Nid yw magu plant yn rhwydd bob amser; mae ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru, eisiau helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â magu plant mewn modd cadarnhaol i rieni sydd â phlant hyd at 18 oed.
Tri mis yn unig ers i gosbi plant yn gorfforol ddod yn anghyfreithlon, bydd cyfres o sioeau teithiol sy’n rhoi gwybodaeth am fagu plant yn ymweld â lleoliadau ledled Cymru rhwng mis Mehefin a mis Medi 2022. Bydd y sioeau teithiol yn ymweld ag Asda Pen-y-Bont ar Ogwr ar ddydd Iau 14 Gorffennaf 2022 (9.30am-12.30pm).
Bydd y sioeau teithiol yn cynnig sesiynau galw heibio anffurfiol i’r cyhoedd mewn archfarchnadoedd a digwyddiadau cyhoeddus, gan roi cyngor ymarferol ar dechnegau magu plant yn gadarnhaol a chyfle i gael gwybod mwy am y gyfraith newydd ar gosbi corfforol.
Bydd cynrychiolwyr o wasanaethau cymorth i deuluoedd / magu plant llywodraeth leol a Magu Plant. Rhowch amser iddo wrth law i siarad am bopeth sy’n ymwneud â magu plant.
Mae’r sioe teithiol yn cyd-fynd ag ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd, ‘Ddim fan hyn’, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod cosbi corfforol, fel smacio, bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Ychwanegodd Sue Layton, cadeirydd y National Parenting and Family Support Strategic Leads Network,sy’n cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth i deuluoedd / magu plant o ansawdd, “Rydym yn falch iawn y bydd y sioe deithiol yn ymweld â Pen-y-Bont ar Ogwr i siarad gyda theuluoedd am yr ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo a’r hyn y mae’n ei gynnig. Yn sgil y newid diweddar i’r gyfraith ar gosbi corfforol yng Nghymru, ni fu erioed yn amser gwell i gael gwybod am ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant. Os na allwch ddod, peidiwch â phoeni, mae gwefan Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau i helpu a chefnogi rhieni, neu gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i gael gwybod pa gymorth rhianta sydd ar gael.”
Paul MeeTracey, Gadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, “Mae’n adeg wych i siarad am ddewisiadau eraill cadarnhaol yn lle cosbi corfforol. Mae magu plant yn rhoi llawer o foddhad, ond fe all fod yn heriol weithiau hefyd! Rydym eisiau helpu i rannu ein gwybodaeth ac edrychwn ymlaen at ddod i’r sioe deithiol yn Pen-y-Bont ar Ogwr i gyfarfod â rhieni a phlant wyneb yn wyneb ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddynt.”
Wedi ei bostio ar Wednesday 13th July 2022