Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Hwb Diogelu Amlasiantaeth.

Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) Cwm Taf yw'r un man cyswllt ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sydd am roi gwybod am  bryderon diogelu ar draws Cwm Taf.

MASH Cwm Taf yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon newydd am ddiogelwch. Mae MASH wedi gwella gweithdrefnau rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau yn sylweddol, gan helpu i ddiogelu'r plant a'r oedolion sy mwyaf agored i niwed, esgeulustra a chamdriniaeth.

Mae MASH Cwm Taf yn un o nifer fach o ganolfannau tebyg ledled y wlad sy'n ymdrin â phryderon yn ymwneud â phlant, oedolion sy'n agored i niwed ac achosion o gam-drin domestig risg uchel. Mae'n gweithredu mewn dull cyfannol sy'n canolbwyntio ar y teulu. Mae bron 50 aelod o wasanaethau'r heddlu, y gwasanaethau iechyd, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y gwasanaethau addysg, y gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant a'r gwasanaethau diogelu oedolion yn gweithio law yn llaw yn swyddfa MASH.

Mae MASH yn derbyn pryderon diogelu yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol, fel athrawon a meddygon, a chan aelodau o'r cyhoedd a theuluoedd hefyd, drwy ganolfannau cyswllt CBS Rhondda Cynon Taf a CBS Merthyr.

O safbwynt y pryderon hynny sy'n cyrraedd y trothwy angenrheidiol ar gyfer ymyrraeth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, bydd cynrychiolwyr asiantaethau gwahanol MASH a chynrychiolwyr asiantaethau allanol yn dod â'u holl wybodaeth a thystiolaeth ynghyd i greu llun cyfannol o amgylchiadau'r achos a'r peryglon posib i'r plentyn, oedolyn neu bryder camdriniaeth ddomestig risg uchel. O ganlyniad, bydd penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud ynglŷn â'r camau i'w cymryd a bydd cymorth yn cael ei dargedu at yr achosion mwyaf brys.

Caiff adborth hefyd ei roi i weithwyr proffesiynol sy'n rhoi gwybod am bryderon. Bydd cyd-drefniant gwell rhwng asiantaethau yn arwain at wasanaethau gwell ar gyfer teuluoedd, plant ac oedolion sy'n agored i niwed.

Gweithwyr proffesiynol sy'n awyddus i ffonio neu wneud atgyfeiriad i MASH: 01443 743730

 

Tudalennau yn yr adran yma