Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Wythnos Ddiogelu 2021

Bydd hyn yn cynnwys rhaglen ddigwyddiadau sy'n edrych ar ystod o faterion diogelu sy'n effeithio ar blant, pobl ifanc ac oedolion yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae materion o'r fath yn cynnwys cam-drin domestig, iechyd meddwl, atal hunanladdiad, cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio.

Mae'r thema hon yn rhoi hyblygrwydd i'r Bwrdd Diogelu, ei bartneriaid a'i asiantaethau yn y rhanbarth drefnu digwyddiadau a gweithgareddau ar faterion diogelu sy'n berthnasol i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, eu defnyddwyr gwasanaeth a'u profiadau yn ystod pandemig Covid-19.

Mae'r rhaglen ddigwyddiadau bron wedi'i chwblhau. Os hoffech gynnwys digwyddiad neu weithgaredd ynddo, e-bostiwch beth.melhuish@rctcbc.gov.uk erbyn dydd Llun, 11eg Hydref fan bellaf.

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th October 2021