Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Ymgyrch Codi Ymwybyddiaeth Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol

Mae ymgyrch wedi ei lansio i dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd wedi cael ei threisio, ymosod yn rhywiol neu ei cham-drin.

Mae ffilm ac animeiddiad pwerus wedi’u rhyddhau sy’n disgrifio’r gwasanaethau a’r cymorth a ddarperir gan ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARCs) yng Nghymru.

Dyma bedair ffordd syml y gallwch chi gymryd rhan:

  • Rhowch ddolen i'r fideo ac animeiddiad SARC neu mewnosodwch ar eich gwefan
  • Rhannwch ein fideo ac animeiddiad SARC gyda'r cyhoedd, eich cydweithwyr, a rhwydweithiau (mae geiriad sampl yn y pecyn cymorth isod)
  • Rhannwch negeseuon allweddol am SARCs ar gyfryngau cymdeithasol - fe welwch eiriad awgrymedig yn y pecyn cymorth a'r delweddau sydd ynghlwm
  • Dilynwch ni ar twitter ac ail-drydarwch ein cynnwys - ein handlen trydar yw @WSAS_Programme

Gweler y dolenni isod i'r pecyn cymorth cyfryngau digidol a graffeg cyfryngau cymdeithasol.

 

Wedi ei bostio ar Friday 15th July 2022