Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus: Adolygiad o'r Llenyddiaeth

Mae’n bleser gan Hyb ACE Cymru rannu ein hadroddiad newydd Aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus: Adolygiad o’r Llenyddiaeth’ gyda chi. 

Gall y profiad o aflonyddu ar sail rhywedd fod yn drawmatig, ac rydym yn cydnabod y gall ddigwydd mewn nifer o ffurfiau ac mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae Hyb ACE Cymru yn cydnabod yr angen i gynyddu ein gwybodaeth a’n sylfaen dystiolaeth i gynnwys profiadau rhywedd o adfyd a thrawma yn unol â’r egwyddor gynhwysol yn Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, a’r ymrwymiad i ddull sy’n ystyriol o drawma o ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru. 

Mae strategaeth (VAWDASV) Cymru yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â thrais rhywiol a gwreig-gasaol y gellir ei brofi mewn mannau cyhoeddus. Mae’r dull Glasbrint wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth. Mae asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli, sefydliadau anllywodraethol, gwasanaethau arbenigol a goroeswyr yn cydweithio i gydlynu camau gweithredu ac ysgogi gweithgareddau i gyflawni’r flaenoriaeth gyffredin o fynd i’r afael â VAWDASV a’r ymrwymiad i wasanaethau sy’n ystyriol o drawma ac a arweinir gan anghenion. Mae Dr Joanne Hopkins, ein Cyfarwyddwr, yn gyd-arweinydd ffrwd waith y Glasbrint: Aflonyddu ar sail Rhywedd ym mhob Man Cyhoeddus sydd â blaenoriaeth i ddeall y sylfaen dystiolaeth ynghylch hyn gan ddefnyddio Dull Iechyd y Cyhoedd.

Nod yr adolygiad hwn yw cydgrynhoi a gwella’r sylfaen dystiolaeth ar atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus, er mwyn deall y cyffredinrwydd, yr achosion ac ymyriadau effeithiol. Bydd yn llywio blaenoriaeth ffrwd waith y Glasbrint yn uniongyrchol. Bydd hefyd yn cefnogi paratoadau ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ar ddod gan Lywodraeth y DU ar Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus.

Nododd yr adolygiad hwn 58 o astudiaethau a ddefnyddiodd ystod o derminoleg gan gynnwys aflonyddu ar sail rhywedd, aflonyddu ar y stryd ac aflonyddu rhywiol cyhoeddus; roedd astudiaethau hefyd yn canolbwyntio ar yr economi gyda'r nos a gwyliau cerdd. Mae canfyddiadau’n dangos bod aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn fater o bwys yng Nghymru, yn y DU ac yn fyd-eang.  O ran achosion aflonyddu cyhoeddus, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at themâu allweddol ar draws y llenyddiaeth ac mae’n canolbwyntio ar gontinwwm trais dynion yn erbyn menywod; gwrywdodau niweidiol traddodiadol; a chroestoriadedd. Mae model cymdeithasol-ecolegol yn sail i ddadansoddiad o’r hyn sy’n amddiffyn menywod a merched ac mae’n canolbwyntio ar weithredu ar lefel unigol, perthynas, cymuned a chymdeithas. Yn olaf, mae meysydd a nodwyd lle mae angen ymchwil pellach yn cynnwys aflonyddu rhywiol mewn torfeydd ac mewn lleoliadau cerddoriaeth fyw yn ogystal â'r gofod ar-lein, sy'n destun adolygiad pellach.

Dywedodd y prif awdur Dr Samia Addis “Mae’r dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus yn broblem sylweddol i fenywod a merched mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys canolfannau siopa, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn parciau ac ar y stryd. Ffocws yr adolygiad hwn yw nodi’r achosion yn ogystal â’r ffactorau sy’n amddiffyn rhag aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus”.   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad hwn, neu waith ehangach Hyb ACE Cymru, cysylltwch â ni yn ACE@wales.nhs.uk 

Wedi ei bostio ar Tuesday 14th May 2024