Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Cymynroddion Dysgu: Dadansoddiad o Adolygiadau Dynladdiad Domestig mewn Achosion o Hunanladdiad Cam-drin Domestig - Lansio adnoddau

Fis Mawrth diwethaf, lansiwyd 'Cymynroddion Dysgu: Dadansoddiad o Adolygiadau o Ddynladdiad Domestig mewn Achosion o Hunanladdiad Cam-drin Domestig'. Roedd hwn yn gydweithrediad rhwng AAFDA (Advocacy After Fatal Domestic Abuse) a Phrifysgol Warwick.

O’r cychwyn cyntaf, roedd ymrwymiad i sicrhau bod gan yr adroddiad gyrhaeddiad eang a bod ei ddysgu yn gallu cefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes cam-drin domestig, Adolygiadau Dynladdiad Domestig ac atal hunanladdiad.

Ym mis Ebrill 20024, lansiwyd cyfres o adnoddau ymarferol i helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall yn well y cysylltiad rhwng cam-drin domestig a hunanladdiad, ac i wella’r ymateb i hunanladdiad ar ôl cam-drin domestig.

Gallwch weld yr adroddiad, briffiau polisi, pecyn cymorth ymarferwyr ac animeiddiad byr yma:

 https://aafda.org.uk/learning-legacies

 

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd May 2024