Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Tudalennau Gwe Gwasanaethau Plant RhCT newydd

Mae CBSRhCT wedi bod yn ailgynllunio gwe-dudalennau corfforaethol Plant a Theuluoedd dros y misoedd diwethaf ac yn falch iawn o gyhoeddi ei fod bellach yn fyw!

Gallwch ymweld â’r tudalennau gwe newydd yma:

 https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ChildrensServices/ChildrensServices.aspx

 Mae gan y tudalennau gwe newydd bedair adran newydd:

“Help a Chymorth i Deuluoedd” sy'n ymgorffori'r swyddogaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Mae ganddo ddolenni i wahanol ffynonellau gwybodaeth a'i nod yw helpu teuluoedd i helpu eu hunain.

· Mae “Gwasanaethau Cefnogi a Diogelu Plant” yn amlinellu prosesau a therminoleg allweddol ar gyfer y rhai sy’n cael cymorth ac ymyrraeth gan y Gwasanaethau Plant.

· Mae “Gwybodaeth ar gyfer 16+” wedi'i diweddaru ac mae'n cynnwys gwybodaeth a chyngor clir ar y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal.

· Mae'r adran “Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc” yn cael ei datblygu ar hyn o bryd a bydd yn fyw yn ddiweddarach eleni.

Mae'r adrannau Plant a Phobl Ifanc Anabl, a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid hefyd wedi'u diweddaru.

You are encouraged you to visit the new pages and share with your networks where possible. 

Feedback is welcomed as this is an ongoing piece of work so, please feel free to send any comments to: Shannon.lee@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar Thursday 9th May 2024