Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i gefnogi plant a goroeswyr ifanc trais rhywiol.

Mae Llwybrau Newydd wedi datblygu adnoddau addysgol i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi datgelu trais rhywiol.

Mae’r ‘Canllaw i bob Ymarferwr’ addysgol a fideo animeiddiedig wedi’u cynhyrchu i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol anarbenigol i ddarparu cymorth interim tra bod cleientiaid yn aros i gael mynediad at wasanaethau arbenigol. Mae'r adnoddau hyn yn addas ar gyfer pob cwnselydd ac ymarferydd sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

I gael mynediad i'r canllaw, dewiswch y ddolen hon.
I weld y fideo sy'n cyd-fynd, dewiswch y ddolen hon.

 

Wedi ei bostio ar Thursday 16th May 2024