Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Camfanteisio'n rhywiol ar blant

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn fath o gam-drin.

Gall unrhyw blentyn o unrhyw gefndir gael ei gamfanteisio’n rhywiol, beth bynnag ei ryw, rhywioldeb neu ei gefndir cymdeithasol neu ethnig.

  • Nid yw oedran y plentyn yn ddangosydd risg - nid yw'r plant rydych chi'n gweithio gydag yn rhy ifanc.
  • Mae troseddwyr yn ystrywgar (manipulative) iawn: efallai eu bod nhw’n defnyddio trais ac ofn, blacmel neu efallai eu bod nhw’n gwneud i'r plentyn teimlo'n euog, yn ddi-werth neu fel nad oes ganddo unrhyw ddewis.
  • Efallai bod troseddwr fod yn oedolyn neu'n blentyn, yn ddyn neu'n fenyw, ac o unrhyw gefndir.
  • Mae'r troseddwyr sy'n gwneud hyn yn fedrus wrth dargedu a meithrin perthnasau amhriodol gyda phobl ifainc.

Os oes gennych unrhyw bryderon bod plentyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn dioddef camfanteisio rhywiol, mae yna gymorth ar gael.

Dylai unrhyw ymarferydd gyda phryderon siarad â'i Swyddog Diogelu a dilyn gweithdrefnau diogelu ei asiantaeth.

I weld Protocol Cymru Gyfan 'Diogelu a Hyrwyddo Lles Plant sydd mewn Perygl o gael eu Cam-drin drwy Gamfanteisio Rhywiol' neu i lawrlwytho copi o Ffurflen Asesu Risg SERAF neu'r Canllawiau Sgorio Asesiad Risg SERAF, Cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen 'Cysylltiadau defnyddiol' ar ochr chwith y dudalen yma.

View the All Wales 'Safeguarding and Promoting the Welfare of Children who are at Risk of Abuse through Sexual Exploitation' Protocol  or download a copy of the SERAF Risk Assessment Form.

Tudalennau yn yr adran yma