Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Amdanon ni

Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg (BDCTM) yn gweithredu o fewn y canllawiau statudol sydd wedi'u nodi yn Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf, bydd BDCTM yn rhoi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl sydd ag anableddau.

Mae BDCT yn monitro pa mor dda mae asiantaethau a phartneriaethau eraill yn gwneud eu gwaith o ran diogelu plant, pobl ifainc ac oedolion sydd mewn perygl ac yn sicrhau bod diogelu wedi'i wreiddio yn yr holl arferion gweithio.

Mae Cwm Taf yn gwasanaethu ardaloedd awdurdod lleol Merthyr Tydfil a Rhondda Cynon Taf, sydd â phoblogaeth o tua 442,000.

Ein Gweledigaeth

Sicrhau bod plant, pobl ifainc ac oedolion yng Nghwm Taf yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac nad ydyn nhw mewn perygl o hynny, a'u bod nhw'n byw mewn amgylchedd sy'n hybu eu lles. Bydd y bwrdd yn ymgysylltu â phlant, pobl ifainc ac oedolion, ac yn gwrando ar eu barn.

Beth yw Diogelu yn ardal Cwm Taf Morgannwg?

Mae diogelu yn ymwneud â gwarchod plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu brofi mathau eraill o niwed, yn ogystal â'u hatal nhw rhag wynebu perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu brofi mathau eraill o niwed.

Yn ôl Deddf Plant 1989, caiff plentyn ei ddiffinio fel unigolyn sydd o dan 18 oed. Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ystyr 'plentyn sydd mewn perygl' yw plentyn sydd:

  • yn cael ei gam-drin, ei esgeuluso neu'n cael ei niweidio mewn unrhyw ffordd arall (neu mewn perygl o'r rhain) ac sydd
  • angen gofal a chymorth (p'un a yw'r Awdurdod Lleol yn diwallu'r anghenion hynny ai peidio).

Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff 'oedolyn sydd mewn perygl' ei ddiffinio fel oedolyn sydd:

  • yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu mewn perygl o'r rhain;
  • angen gofal a chymorth (p'un a yw'r Awdurdod Lleol yn diwallu'r anghenion hynny ai peidio); ac
  • oherwydd yr anghenion hynny, yn methu ag amddiffyn ei hunan rhag cael ei gam-drin neu'i esgeuluso, neu rhag bod mewn perygl o hyn.

Mae Cam-drin yn golygu cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol. Mae cam-drin ariannol yn cynnwys;

  • rhywun yn dwyn eich arian neu eiddo arall;
  • wynebu twyll ariannol;
  • cael eich rhoi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;
  • rhywun yn camddefnyddio eich arian neu fath arall o eiddo;

Mae Esgeuluso yn golygu peidio â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol yr unigolyn, sy'n debygol o amharu ar ei les.

Caiff gwaith Diogelu yng Nghwm Taf ei oruchwylio gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf, sy'n fwrdd amlasiantaeth rhanbarthol. Mae'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • Diogelu Oedolion
  • Diogelu Plant –
  • Yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)

Caiff cyfrifoldebau a swyddogaethau'r Bwrdd eu hamlinellu yn y canllawiau statudol o dan Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer herio asiantaethau perthnasol fel bod;

  • Mesurau effeithiol ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sy'n dioddef niwed neu a all fod mewn perygl o ganlyniad i gam-drin, esgeuluso neu fathau eraill o niwed, ac
  • Asiantaethau'n cydweithio'n effeithiol gyda'i gilydd wrth gynllunio a darparu gwasanaethau amddiffyn a rhannu gwybodaeth.

Cylch Gorchwyl CTMSB

I weld Cylsch Gorchwyl Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, dewiswch y ddolen hon.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar 01443 490 122

Mae gan bob un ohonom ni swyddogaeth yn y gwaith o atal pobl rhag cael eu hesgeuluso a'u cam-drin, yn ogystal â chanfod achosion o hynny a rhoi gwybod amdanyn nhw.

Busnes pawb yw diogelu