Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Ukraine: Safeguarding and Modern Slavery

Update: 29th June, 2022

This week, Welsh Government introduced a national approach to DBS checks to support local authorities’ work facilitating the move-on of Ukrainian citizens from Welcome Centres. The attached communication issued from the WLGA this week provides information about this.

The following information has been issued by Welsh Government: 

In respect of the Ukraine response work, please see details below for a reporting process in respect of serious and urgent safeguarding concerns and requests for more general advice about safeguarding and modern slavery. 

As we work together to support the humanitarian response to Ukraine, we know that local authorities and other partners are dealing with new situations and challenges.

We have established a designated inbox to take queries on:

  • Safeguarding checks including DBS.
  • Homes for Ukraine: Safeguarding and Modern Slavery guidance clarification on advice.
  • Advice on responding to safeguarding and modern slavery concerns.

Please also use this email address to let us know about any emerging safeguarding or modern slavery issues in your area.

For urgent safeguarding and modern slavery concerns: 

  • where a person(s) from Ukraine is assessed to be at risk of immediate harm from a potential host sponsor and a Border Force intervention is required or
  • where an unaccompanied child(ren) has been identified.

Local authorities can log issues via Jira. Local authorities will need to select the area where they require support and be linked through to a Jira Registration page to log their issue. Users will only need to register once. Each case requires a unique Jira ticket. 

Local authorities can log in using this link: https://digital.dclg.gov.uk/jira/servicedesk/customer/portal/11 

Alternatively, call the Telephone Desk: 0303 444 4445

Opening Hours: 9am - 6pm: Monday - Friday (except Bank Holidays)

On resolution of your issue, please report a summary of it and the outcome to the Welsh Government mailbox below.

ContactUkraine.Safeguarding@gov.wales 

Cartrefi i Wcráin: cynllun ceisiadau newydd i blant ar eu pen eu hunain

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nodyn canllaw ategol mewn perthynas â’r cynllun ceisiadau newydd ar gyfer plant ar eu pen eu hunain o Wcráin. Mae’n cynnwys dolenni i brif ganllawiau a dogfennau Llywodraeth y DU a ffynonellau cyngor a chymorth eraill: Cartrefi i Wcráin: cynllun ceisiadau newydd i blant ar eu pen eu hunain | LLYW.CYMRU  

Mae’r adnoddau ynghlwm a ganlyn hefyd ar gael: 

Recordiadau o sesiynau dysgu Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf: https://we.tl/t-dhck64Wl1Z  

Cyflwyniad o’r sesiynau dysgu.  

Cyflwyniad o gwestiynau cyffredin y sesiynau dysgu a gododd o’r sesiynau ym mis Gorffennaf.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ddinasyddion Wcráin sy’n ceisio gwaith

O ran gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i ddinasyddion Wcráin sy’n ceisio gwaith, mae Llywodraeth y DU yn nodi’r broses i gyflogwyr ar gyfer ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: DBS checks: guidance for employers - GOV.UK (www.gov.uk). Mae adran benodol ar ymgeiswyr tramor hefyd: Countries Q to Z: applying for a criminal records check for someone from overseas - GOV.UK (www.gov.uk). Yn y ddolen honno mae gwybodaeth benodol am Wcráin er mwyn i unigolion allu cael tystysgrifau ymddygiad da gan awdurdodau Wcráin. Gall Wcreiniaid wneud cais am wiriad heddlu tramor o Wcráin drwy wefan Gweinyddiaeth Materion Mewnol Wcráin https://vytiah.mvs.gov.ua/. Bydd yr wybodaeth y gofynnir amdani yn cael ei hanfon atynt ar e-bost. I wneud cais am y gwasanaeth hwn, bydd angen llofnod electronig ar y dinesydd o Wcráin. Ar ôl cael neges yn yr Wcreineg, bydd angen iddynt wneud cais am lythyr cadarnhad gan Lysgenhadaeth Wcráin, gall y dogfennau hyn gael eu cyfieithu gan drydydd parti. 

Ar gyfer Wcreiniaid heb lofnod electronig, rhaid i geisiadau gael eu gwneud wyneb yn wyneb yn Adran Gonsylaidd Llysgenhadaeth Wcráin yn Llundain. Rhaid cael pasbort dilys fel prawf o ID a dylid cyflwyno hwnnw ar y diwrnod. Mae disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno ei gyfeiriad(au) blaenorol yn Wcráin yn yr Adran Gonsylaidd. Gellir gwneud ymholiadau drwy consul_gb@mfa.gov.ua.  

Mae cyd-weithwyr yn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd wedi cadarnhau bod eu canllawiau ID yn ei gwneud yn bosibl i ddogfennau mewnfudo a dogfennau gan lywodraeth leol neu lywodraeth ganolog sy’n dangos hawl i fudd-daliadau gael eu cyflwyno at ddibenion ID. Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o’r farn y dylai’r dogfennau hyn ynghyd ag unrhyw ID Wcreinaidd fod yn ddigon i fodloni meini prawf ceisiadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Wcráin: Diogelu a chaethwasiaeth fodern  

Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i gefnogi'r ymateb dyngarol i Wcráin, gwyddom fod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn delio â sefyllfaoedd a heriau newydd.

Rydym wedi creu mewnflwch dynodedig i dderbyn cwestiynau ar:

  • Gwiriadau diogelu gan gynnwys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern.
  • Cyngor ar ymateb i bryderon diogelu a chaethwasiaeth fodern.
  • Cartrefi i Wcráin: cynllun ceisiadau newydd i blant ar eu pen eu hunain

Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn hefyd i roi gwybod i ni am unrhyw faterion diogelu neu gaethwasiaeth fodern sy'n dod i'r amlwg yn eich ardal. 

Os oes pryderon brys ynghylch diogelu a chaethwasiaeth fodern

  • os credir fod person(au) o Wcráin mewn perygl o niwed uniongyrchol gan ddarpar noddwr sy’n lletya a bod angen ymyrraeth gan Lu Ffiniau’r DU, neu
  • pan fo plentyn/plant ar eu pen eu hunain wedi’u nodi.

Gall awdurdodau lleol gofnodi materion drwy Jira. Bydd angen iddynt ddewis y maes lle mae angen cymorth arnynt, a byddant yn cael eu cysylltu i dudalen Cofrestru Jira i gofnodi’r mater. Dim ond unwaith mae angen i ddefnyddwyr gofrestru. Mae angen tocyn Jira unigryw ar gyfer pob achos. 

Gall awdurdodau lleol fewngofnodi drwy’r ddolen hon: https://digital.dclg.gov.uk/jira/servicedesk/customer/portal/11.  

Neu, gallant ffonio’r Ddesg Ffôn: 0303 444 4445.

Oriau Agor: 9am – 6pm: dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc).  

Ar ôl i’ch mater gael ei ddatrys, anfonwch adroddiad arno a’r canlyniad i flwch e-bost Llywodraeth Cymru isod.

Noder nad yw'r wybodaeth a amlinellir uchod yn disodli'r prosesau presennol ar gyfer rhoi gwybod am ddiogelu neu bryderon ynghylch unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o'r Wcráin. Rhaid i Awdurdodau Lleol gadw at Weithdrefnau Diogelu Cymru a dilyn y broses arferol ar gyfer adrodd am bryderon diogelu. Rhaid parhau i roi gwybod am yr holl bryderon diogelu fel arfer. 

Sut i roi gwybod am amheuaeth o gam-drin, niwed, neu esgeulustod (diogelu pobl) | LLYW.CYMRU 

Cyswllt: Wcrain.Diogelu@llyw.cymru 

Cartrefi i Wcráin: canllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern | LLYW.CYMRU

 

Tudalennau yn yr adran yma