Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Bwrdd Diogelu yn cyhoeddi lansiad gwefan newydd

Mae'n bleser gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg gyhoeddi lansiad ei wefan newydd, y gellir ei gweld trwy ymweld â www.ctmsb.co.uk.

Mae'r Bwrdd Diogelu yn bartneriaeth statudol sy'n cynnwys yr asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod pobl o bob oed, sy'n byw yn y rhanbarth, yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed.

Gyda chynllun clir, hawdd ei ddefnyddio a chyflwyniad cyfleuster chwilio, bydd defnyddwyr yn gallu llywio trwy'r wefan yn rhwydd.

Mae'r wefan newydd wedi'i hanelu at weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd ac mae ganddi adrannau ar gyfer plant a phobl ifanc, oedolion, rhieni a chynhalwyr (gofalwyr).

Mae adran mewngofnodi aelodau yn darparu ardal ddiogel a chyfrinachol, gan gynnig mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth ddiogelu hanfodol i aelodau’r Bwrdd.

Bydd y wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda newyddion, achlysuron, hyfforddiant, polisïau, arweiniad a gwybodaeth ar amrywiaeth eang o faterion diogelu, gan wneud y wefan – www.ctmsb.co.uk – y man cychwyn ar gyfer diogelu yn y rhanbarth.

Daw cam-drin ar sawl ffurf, gan gynnwys corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol. Mae esgeulustod yn fethiant i ddiwallu anghenion sylfaenol unigolyn.

Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn RhCT, Merthyr Tudful neu Ben-y-bont ar Ogwr ac yn amau ​​bod plentyn neu oedolyn mewn perygl yn cael ei gam-drin, ewch i'r wefan i ddarganfod beth i'w wneud.

Busnes pawb yw diogelu.

Wedi ei bostio ar Wednesday 18th December 2019