Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Grŵp Gofyn a Gweithredu 2 - Cyrsiau Hyfforddi'r Hyfforddwr

Mae Gofyn a Gweithredu yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn ei Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Dewiswch y ddolen isod i weld y dyddiadau ar gyfer y cyrsiau Gofyn a Gweithredu Hyfforddi'r Hyfforddwr ar gyfer eleni. Rhannwch gyda'ch cysylltiadau.

 Ask & Act Group 2 TTT - Leaflet

Pan fyddwch yn lledaenu, a fyddech cystal â sicrhau bod y staff yn gwybod y canlynol:

  • Dylai fod gan ymgeiswyr chwe mis o brofiad o hwyluso dysgu neu gymhwyster hyfforddi i fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn.

  • Mae'r cyrsiau yn 3 diwrnod o hyd.

  • 2 ddiwrnod yn olynol o elfen a addysgir yna un diwrnod fis yn ddiweddarach ar gyfer microteach

  • Gellir cofrestru drwy’r dolenni Eventbrite ar y daflen atodedig, ond byddai’n ddefnyddiol gwybod yn lleol a yw staff yn gwneud cais, felly wrth wneud cais, rhowch wybod i mandy.terry@bridgend.gov.uk a ceri.watts@rctcbc.gov.uk

  • Wrth gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich sefydliad a’r rhanbarth rydych yn gweithio ynddo (hy Cwm Taf Morgannwg)

  • Achredir cyrsiau gan Agored Cymru

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd May 2024