Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Peryglon sy'n gysylltiedig ag Ysgwyd Babanod

 

Mae gofalu am fabi sy'n crio yn gallu bod yn heriol. Weithiau, mae rhieni'n ei gweld hi'n anodd cysuro'u babi, ac mae'n bosib bod hyn yn peri gofid neu rwystredigaeth. Yn yr achosion gwaethaf, mae modd i hyn arwain at rieni'n colli'u tymer ac yn brifo'u baban.

Anaf pen bwriadol yw un o'r ffactorau amlycaf sy'n achosi marwolaethau babanod neu anabledd tymor hir o ganlyniad i gamdriniaeth.  Mae modd i anafiadau gael eu hachosi pan fydd babi'n cael ei ysgwyd, ei daro neu'i daflu. Mae ymchwil yn dangos bod nifer sylweddol o fabanod yng Nghymru yn dioddef o anafiadau o'r fath ac y byddai modd achub bywydau plant gydag ymgyrch effeithiol i dynnu sylw at y mater.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu'r fideo pedair munud o hyd isod. Mae'r fideo'n amlygu'r heriau o geisio ymdopi â baban sy'n crio ac yn nodi'n glir bod ysgwyd babi yn ei frifo.