Gadewch y wefan yma ar unwaith
Partneriaeth - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr

Beth i'w wneud os ydych chi'n pryderu am blentyn

 Os oes gyda chi bryderon ynghylch diogelwch plentyn neu berson ifanc, ffoniwch eich Carfan Diogelu leol ar y rhifau isod:

  • Yn Rhondda Cynon Taf:  01443 425006
  • Ym Merthyr Tudful:  01685 725000
  • Ym Mhen-y-bon Ogwr: 01656 642320

Mae modd i chi ffonio'r rhifau yma rhwng: 8.30am a 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau, a 8.30am a 4.30 ddydd Gwener

Argyfwng tu allan i oriau'r swyddfa (RhCT a Merthyr Tudful):

 I gysylltu â Gwasanaethau i Blant tu allan i oriau'r swyddfa, ar benwythnosau ac ar wyliau banc, ffoniwch Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau Cwm Taf ar 01443 743665.

Os ydych chi'n amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.

Os does dim angen ymateb ar frys mae croeso i chi ffonio'r heddlu ar 101.

 

Os bydd yn dod i'r amlwg bod plentyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o niwed sylweddol, bydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'r teulu i sicrhau bod modd diogelu'r plentyn.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â rhieni a chynhalwyr plant a phobl ifanc.